1. Eithr am yr amserau a'r prydiau, frodyr, nid rhaid i chwi ysgrifennu ohonof atoch.
2. Oblegid chwi a wyddoch eich hunain yn hysbys, mai felly y daw dydd yr Arglwydd fel lleidr yn y nos.
3. Canys pan ddywedant, Tangnefedd a diogelwch; yna y mae dinistr disymwth yn dyfod ar eu gwarthaf, megis gwewyr esgor ar un a fo beichiog; ac ni ddihangant hwy ddim.
4. Ond chwychwi, frodyr, nid ydych mewn tywyllwch, fel y goddiweddo'r dydd hwnnw chwi megis lleidr.
5. Chwychwi oll, plant y goleuni ydych, a phlant y dydd: nid ydym ni o'r nos, nac o'r tywyllwch.
6. Am hynny na chysgwn, fel rhai eraill; eithr gwyliwn, a byddwn sobr.