Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5

Hen Destament

Testament Newydd

1 Thesaloniaid 4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ymhellach gan hynny, frodyr, yr ydym yn atolwg i chwi, ac yn deisyf yn yr Arglwydd Iesu, megis y derbyniasoch gennym pa fodd y dylech rodio a bodloni Duw, ar i chwi gynyddu fwyfwy.

2. Canys chwi a wyddoch pa orchmynion a roddasom i chwi trwy'r Arglwydd Iesu.

3. Canys hyn yw ewyllys Duw, sef eich sancteiddiad chwi, ar ymgadw ohonoch rhag godineb:

4. Ar fedru o bob un ohonoch feddiannu ei lestr ei hun mewn sancteiddrwydd a pharch;

5. Nid mewn gwŷn trachwant, megis y Cenhedloedd y rhai nid adwaenant Dduw:

6. Na byddo i neb orthrymu na thwyllo ei frawd mewn dim: canys dialydd yw'r Arglwydd ar y rhai hyn oll, megis y dywedasom i chwi o'r blaen, ac y tystiasom.

7. Canys ni alwodd Duw nyni i aflendid, ond i sancteiddrwydd.

8. Am hynny y neb sydd yn dirmygu, nid dyn y mae yn ei ddirmygu, ond Duw, yr hwn hefyd a roddes ei Ysbryd Glân ynom ni.

9. Ond am frawdgarwch, nid rhaid i chwi ysgrifennu ohonof atoch: canys yr ydych chwi eich hunain wedi eich dysgu gan Dduw i garu eich gilydd.

10. Oblegid yr ydych yn gwneuthur hyn i bawb o'r brodyr y rhai sydd trwy holl Facedonia: ond yr ydym yn atolwg i chwi, frodyr, gynyddu ohonoch fwyfwy;

11. A rhoddi ohonoch eich bryd ar fod yn llonydd, a gwneuthur eich gorchwylion eich hunain, a gweithio â'ch dwylo eich hunain, (megis y gorchmynasom i chwi;)

12. Fel y rhodioch yn weddaidd tuag at y rhai sydd oddi allan, ac na byddo arnoch eisiau dim.

13. Ond ni ewyllysiwn, frodyr, i chwi fod heb wybod am y rhai a hunasant, na thristaoch, megis eraill y rhai nid oes ganddynt obaith.

14. Canys os ydym yn credu farw Iesu, a'i atgyfodi; felly y rhai a hunasant yn yr Iesu, a ddwg Duw hefyd gydag ef.

15. Canys hyn yr ydym yn ei ddywedyd wrthych yng ngair yr Arglwydd, na bydd i ni'r rhai byw, y rhai a adewir hyd ddyfodiad yr Arglwydd, ragflaenu'r rhai a hunasant.

16. Oblegid yr Arglwydd ei hun a ddisgyn o'r nef gyda bloedd, â llef yr archangel, ac ag utgorn Duw: a'r meirw yng Nghrist a gyfodant yn gyntaf:

17. Yna ninnau'r rhai byw, y rhai a adawyd, a gipir i fyny gyda hwynt yn y cymylau, i gyfarfod â'r Arglwydd yn yr awyr: ac felly y byddwn yn wastadol gyda'r Arglwydd.

18. Am hynny diddenwch eich gilydd â'r ymadroddion hyn.