Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5

Hen Destament

Testament Newydd

1 Thesaloniaid 3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Am hynny, gan na allem ymatal yn hwy, ni a welsom yn dda ein gadael ni ein hunain yn Athen;

2. Ac a ddanfonasom Timotheus, ein brawd, a gweinidog Duw, a'n cyd-weithiwr yn efengyl Crist, i'ch cadarnhau chwi, ac i'ch diddanu ynghylch eich ffydd;

3. Fel na chynhyrfid neb yn y gorthrymderau hyn: canys chwychwi eich hunain a wyddoch mai i hyn y'n gosodwyd ni.

4. Canys yn wir pan oeddem gyda chwi, ni a ragddywedasom i chwi y gorthrymid ni; megis y bu, ac y gwyddoch chwi.

5. Oherwydd hyn, minnau, heb allu ymatal yn hwy, a ddanfonais i gael gwybod eich ffydd chwi; rhag darfod i'r temtiwr eich temtio chwi, a myned ein llafur ni yn ofer.

6. Eithr yr awron, wedi dyfod Timotheus atom oddi wrthych, a dywedyd i ni newyddion da am eich ffydd chwi a'ch cariad, a bod gennych goffa da amdanom ni yn wastadol, gan hiraethu am ein gweled ni, megis yr ydym ninnau am eich gweled chwithau;

7. Am hynny y cawsom gysur, frodyr, amdanoch chwi, yn ein holl orthrymder a'n hangenoctid, trwy eich ffydd chwi.

8. Oblegid yr awron byw ydym ni, os ydych chwi yn sefyll yn yr Arglwydd.

9. Canys pa ddiolch a allwn ni ei ad-dalu i Dduw amdanoch chwi, am yr holl lawenydd â'r hwn yr ydym ni yn llawen o'ch achos chwi gerbron ein Duw ni,

10. Gan weddïo mwy na mwy, nos a dydd, ar gael gweled eich wyneb chwi, a chyflawni diffygion eich ffydd chwi?

11. A Duw ei hun a'n Tad ni, a'n Harglwydd Iesu Grist, a gyfarwyddo ein ffordd ni atoch chwi.

12. A'r Arglwydd a'ch lluosogo, ac a'ch chwanego ym mhob cariad i'ch gilydd, ac i bawb, megis ag yr ydym ninnau i chwi:

13. I gadarnhau eich calonnau chwi yn ddiargyhoedd mewn sancteiddrwydd gerbron Duw a'n Tad, yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist gyda'i holl saint.