1. Canys chwi eich hunain a wyddoch, frodyr, ein dyfodiad ni i mewn atoch, nad ofer fu:
2. Eithr wedi i ni ddioddef o'r blaen, a chael amarch, fel y gwyddoch chwi, yn Philipi, ni a fuom hy yn ein Duw i lefaru wrthych chwi efengyl Duw trwy fawr ymdrech.
3. Canys ein cyngor ni nid oedd o hudoliaeth nac o aflendid, nac mewn twyll:
4. Eithr megis y'n cyfrifwyd ni gan Dduw yn addas i ymddiried i ni am yr efengyl, felly yr ydym yn llefaru; nid megis yn rhyngu bodd i ddynion, ond i Dduw, yr hwn sydd yn profi ein calonnau ni.
5. Oblegid ni fuom ni un amser mewn ymadrodd gwenieithus, fel y gwyddoch chwi, nac mewn rhith cybydd-dod; Duw yn dyst: