Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5

Hen Destament

Testament Newydd

1 Thesaloniaid 1 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Paul, a Silfanus, a Thimotheus, at eglwys y Thesaloniaid, yn Nuw Dad, a'r Arglwydd Iesu Grist: Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a'r Arglwydd Iesu Grist.

2. Yr ydym yn diolch i Dduw yn wastadol drosoch chwi oll, gan wneuthur coffa amdanoch yn ein gweddïau,

3. Gan gofio yn ddi-baid waith eich ffydd chwi, a llafur eich cariad, ac ymaros eich gobaith yn ein Harglwydd Iesu Grist, gerbron Duw a'n Tad;

4. Gan wybod, frodyr annwyl, eich etholedigaeth chwi gan Dduw.

5. Oblegid ni bu ein hefengyl ni tuag atoch mewn gair yn unig, eithr hefyd mewn nerth, ac yn yr Ysbryd Glân, ac mewn sicrwydd mawr; megis y gwyddoch chwi pa fath rai a fuom ni yn eich plith, er eich mwyn chwi.

6. A chwi a aethoch yn ddilynwyr i ni, ac i'r Arglwydd, wedi derbyn y gair mewn gorthrymder mawr, gyda llawenydd yr Ysbryd Glân:

7. Hyd onid aethoch yn siamplau i'r rhai oll sydd yn credu ym Macedonia ac yn Achaia.

8. Canys oddi wrthych chwi y seiniodd gair yr Arglwydd, nid yn unig ym Macedonia, ac yn Achaia, ond ym mhob man hefyd eich ffydd chwi ar Dduw a aeth ar led; fel nad rhaid i ni ddywedyd dim.

9. Canys y maent hwy yn mynegi amdanom ni, pa ryw ddyfodiad i mewn a gawsom ni atoch chwi, a pha fodd y troesoch at Dduw oddi wrth eilunod, i wasanaethu'r bywiol a'r gwir Dduw;

10. Ac i ddisgwyl am ei Fab ef o'r nefoedd, yr hwn a gyfododd efe o feirw, sef Iesu, yr hwn a'n gwaredodd ni oddi wrth y digofaint sydd ar ddyfod.