8. Eithr o flaen pob peth, bydded gennych gariad helaeth tuag at eich gilydd: canys cariad a guddia liaws o bechodau.
9. Byddwch letygar y naill i'r llall, heb rwgnach.
10. Pob un, megis y derbyniodd rodd, cyfrennwch â'ch gilydd, fel daionus oruchwylwyr amryw ras Duw.
11. Os llefaru a wna neb, llefared megis geiriau Duw; os gweini y mae neb, gwnaed megis o'r gallu y mae Duw yn ei roddi: fel ym mhob peth y gogonedder Duw trwy Iesu Grist; i'r hwn y byddo'r gogoniant a'r gallu yn oes oesoedd. Amen.
12. Anwylyd, na fydded ddieithr gennych am y profiad tanllyd sydd ynoch, yr hwn a wneir er profedigaeth i chwi, fel pe bai beth dieithr yn digwydd i chwi:
13. Eithr llawenhewch, yn gymaint â'ch bod yn gyfranogion o ddioddefiadau Crist; fel, pan ddatguddier ei ogoniant ef, y byddoch yn llawen ac yn gorfoleddu.