Hen Destament

Testament Newydd

1 Pedr 4:3-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Canys digon i ni yr amser a aeth heibio o'r einioes i weithredu ewyllys y Cenhedloedd, gan rodio mewn trythyllwch, trachwantau, meddwdod, cyfeddach, diota, a ffiaidd eilun-addoliad:

4. Yn yr hyn y maent yn ddieithr yn eich cablu chwi, am nad ydych yn cydredeg gyda hwynt i'r unrhyw ormod rhysedd:

5. Y rhai a roddant gyfrif i'r hwn sydd barod i farnu'r byw a'r meirw.

6. Canys er mwyn hynny yr efengylwyd i'r meirw hefyd; fel y bernid hwy yn ôl dynion yn y cnawd, ac y byddent fyw yn ôl Duw yn yr ysbryd.

7. Eithr diwedd pob peth a nesaodd: am hynny byddwch sobr, a gwyliadwrus i weddïau.

8. Eithr o flaen pob peth, bydded gennych gariad helaeth tuag at eich gilydd: canys cariad a guddia liaws o bechodau.

9. Byddwch letygar y naill i'r llall, heb rwgnach.

10. Pob un, megis y derbyniodd rodd, cyfrennwch â'ch gilydd, fel daionus oruchwylwyr amryw ras Duw.

11. Os llefaru a wna neb, llefared megis geiriau Duw; os gweini y mae neb, gwnaed megis o'r gallu y mae Duw yn ei roddi: fel ym mhob peth y gogonedder Duw trwy Iesu Grist; i'r hwn y byddo'r gogoniant a'r gallu yn oes oesoedd. Amen.

12. Anwylyd, na fydded ddieithr gennych am y profiad tanllyd sydd ynoch, yr hwn a wneir er profedigaeth i chwi, fel pe bai beth dieithr yn digwydd i chwi:

13. Eithr llawenhewch, yn gymaint â'ch bod yn gyfranogion o ddioddefiadau Crist; fel, pan ddatguddier ei ogoniant ef, y byddoch yn llawen ac yn gorfoleddu.

14. Os difenwir chwi er mwyn enw Crist, gwyn eich byd; oblegid y mae Ysbryd y gogoniant, ac Ysbryd Duw yn gorffwys arnoch: ar eu rhan hwynt yn wir efe a geblir, ond ar eich rhan chwi efe a ogoneddir.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Pedr 4