Hen Destament

Testament Newydd

1 Pedr 4:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Am hynny gan ddioddef o Grist drosom ni yn y cnawd, chwithau hefyd byddwch wedi eich arfogi â'r un meddwl: oblegid yr hwn a ddioddefodd yn y cnawd, a beidiodd â phechod;

2. Fel na byddo mwyach fyw i chwantau dynion, ond i ewyllys Duw, dros yr amser sydd yn ôl yn y cnawd.

3. Canys digon i ni yr amser a aeth heibio o'r einioes i weithredu ewyllys y Cenhedloedd, gan rodio mewn trythyllwch, trachwantau, meddwdod, cyfeddach, diota, a ffiaidd eilun-addoliad:

Darllenwch bennod gyflawn 1 Pedr 4