1. Yr un ffunud, bydded y gwragedd ostyngedig i'w gwŷr priod; fel, od oes rhai heb gredu i'r gair, y galler trwy ymarweddiad y gwragedd, eu hennill hwy heb y gair,
2. Wrth edrych ar eich ymarweddiad diwair chwi ynghyd ag ofn.
3. Trwsiad y rhai bydded nid yr un oddi allan, o blethiad gwallt, ac amgylch-osodiad aur, neu wisgad dillad;
4. Eithr bydded cuddiedig ddyn y galon, mewn anllygredigaeth ysbryd addfwyn a llonydd, yr hwn sydd gerbron Duw yn werthfawr.
5. Canys felly gynt yr oedd y gwragedd sanctaidd hefyd, y rhai oedd yn gobeithio yn Nuw, yn ymdrwsio, gan fod yn ddarostyngedig i'w gwŷr priod;
6. Megis yr ufuddhaodd Sara i Abraham, gan ei alw ef yn arglwydd: merched yr hon ydych chwi, tra fyddoch yn gwneuthur yn dda, ac heb ofni dim dychryn.
7. Y gwŷr, yr un ffunud, cydgyfanheddwch â hwynt yn ôl gwybodaeth, gan roddi parch i'r wraig megis i'r llestr gwannaf, fel rhai sydd gyd-etifeddion gras y bywyd; rhag rhwystro eich gweddïau.
8. Am ben hyn, byddwch oll yn unfryd, yn cydoddef â'ch gilydd, yn caru fel brodyr, yn drugarogion, yn fwynaidd:
9. Nid yn talu drwg am ddrwg, neu sen am sen: eithr, yng ngwrthwyneb, yn bendithio; gan wybod mai i hyn y'ch galwyd, fel yr etifeddoch fendith.
10. Canys y neb a ewyllysio hoffi bywyd, a gweled dyddiau da, atalied ei dafod oddi wrth ddrwg, a'i wefusau rhag adrodd twyll:
11. Gocheled y drwg, a gwnaed y da; ceisied heddwch, a dilyned ef.
12. Canys y mae llygaid yr Arglwydd ar y rhai cyfiawn, a'i glustiau ef tuag at eu gweddi hwynt: eithr y mae wyneb yr Arglwydd yn erbyn y rhai sydd yn gwneuthur drwg.
13. A phwy a'ch dryga chwi, os byddwch yn dilyn yr hyn sydd dda?
14. Eithr o bydd i chwi hefyd ddioddef oherwydd cyfiawnder, dedwydd ydych: ond nac ofnwch rhag eu hofn hwynt, ac na'ch cynhyrfer;