Hen Destament

Testament Newydd

1 Pedr 1:5-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Y rhai trwy allu Duw ydych gadwedig trwy ffydd i iachawdwriaeth, parod i'w datguddio yn yr amser diwethaf.

6. Yn yr hyn yr ydych yn mawr lawenhau, er eich bod ychydig yr awron, os rhaid yw, mewn tristwch, trwy amryw brofedigaethau:

7. Fel y caffer profiad eich ffydd chwi, yr hwn sydd werthfawrusach na'r aur colladwy, cyd profer ef trwy dân, er mawl, ac anrhydedd, a gogoniant, yn ymddangosiad Iesu Grist:

8. Yr hwn, er nas gwelsoch, yr ydych yn ei garu; yn yr hwn, heb fod yr awron yn ei weled, ond yn credu, yr ydych yn mawr lawenhau â llawenydd anhraethadwy a gogoneddus:

9. Gan dderbyn diwedd eich ffydd, sef iachawdwriaeth eich eneidiau.

10. Am yr hon iachawdwriaeth yr ymofynnodd, ac y manwl chwiliodd y proffwydi, y rhai a broffwydasant am y gras a ddeuai i chwi:

11. Gan chwilio pa bryd, neu pa ryw amser, yr oedd Ysbryd Crist, yr hwn oedd ynddynt, yn ei hysbysu, pan oedd efe yn rhagdystiolaethu dioddefaint Crist, a'r gogoniant ar ôl hynny.

12. I'r rhai y datguddiwyd, nad iddynt hwy eu hunain, ond i ni, yr oeddynt yn gweini yn y pethau a fynegwyd yn awr i chwi, gan y rhai a efengylasant i chwi trwy'r Ysbryd Glân, yr hwn a ddanfonwyd o'r nef; ar yr hyn bethau y mae'r angylion yn chwenychu edrych.

13. Oherwydd paham, gan wregysu lwynau eich meddwl, a bod yn sobr, gobeithiwch yn berffaith am y gras a ddygir i chwi yn natguddiad Iesu Grist;

14. Fel plant ufudd-dod, heb gydymagweddu â'r trachwantau o'r blaen yn eich anwybodaeth:

Darllenwch bennod gyflawn 1 Pedr 1