12. I'r rhai y datguddiwyd, nad iddynt hwy eu hunain, ond i ni, yr oeddynt yn gweini yn y pethau a fynegwyd yn awr i chwi, gan y rhai a efengylasant i chwi trwy'r Ysbryd Glân, yr hwn a ddanfonwyd o'r nef; ar yr hyn bethau y mae'r angylion yn chwenychu edrych.
13. Oherwydd paham, gan wregysu lwynau eich meddwl, a bod yn sobr, gobeithiwch yn berffaith am y gras a ddygir i chwi yn natguddiad Iesu Grist;
14. Fel plant ufudd-dod, heb gydymagweddu â'r trachwantau o'r blaen yn eich anwybodaeth:
15. Eithr megis y mae'r neb a'ch galwodd chwi yn sanctaidd, byddwch chwithau hefyd sanctaidd ym mhob ymarweddiad.
16. Oblegid y mae yn ysgrifenedig, Byddwch sanctaidd; canys sanctaidd ydwyf fi.
17. Ac os ydych yn galw ar y Tad, yr hwn sydd heb dderbyn wyneb yn barnu yn ôl gweithred pob un, ymddygwch mewn ofn dros amser eich ymdeithiad:
18. Gan wybod nad â phethau llygredig, megis arian neu aur, y'ch prynwyd oddi wrth eich ofer ymarweddiad, yr hwn a gawsoch trwy draddodiad y tadau;
19. Eithr â gwerthfawr waed Crist, megis oen difeius a difrycheulyd:
20. Yr hwn yn wir a ragordeiniwyd cyn sylfaenu'r byd, eithr a eglurwyd yn yr amseroedd diwethaf er eich mwyn chwi,
21. Y rhai ydych trwyddo ef yn credu yn Nuw, yr hwn a'i cyfododd ef oddi wrth y meirw, ac a roddodd iddo ef ogoniant, fel y byddai eich ffydd chwi a'ch gobaith yn Nuw.