Hen Destament

Testament Newydd

1 Ioan 5:9-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Os tystiolaeth dynion yr ydym yn ei derbyn, y mae tystiolaeth Duw yn fwy: canys hyn yw tystiolaeth Duw, yr hon a dystiolaethodd efe am ei Fab.

10. Yr hwn sydd yn credu ym Mab Duw, sydd ganddo'r dystiolaeth ynddo ei hun: yr hwn nid yw yn credu yn Nuw, a'i gwnaeth ef yn gelwyddog, oblegid na chredodd y dystiolaeth a dystiolaethodd Duw am ei Fab.

11. A hon yw'r dystiolaeth; roddi o Dduw i ni fywyd tragwyddol: a'r bywyd hwn sydd yn ei Fab ef.

12. Yr hwn y mae'r Mab ganddo, y mae'r bywyd ganddo; a'r hwn nid yw ganddo Fab Duw, nid oes ganddo fywyd.

13. Y pethau hyn a ysgrifennais atoch chwi, y rhai ydych yn credu yn enw Mab Duw; fel y gwypoch fod i chwi fywyd tragwyddol, ac fel y credoch yn enw Mab Duw.

14. A hyn yw'r hyfder sydd gennym tuag ato ef; ei fod ef yn ein gwrando ni, os gofynnwn ddim yn ôl ei ewyllys ef.

15. Ac os gwyddom ei fod ef yn ein gwrando ni, pa beth bynnag a ddeisyfom, ni a wyddom ein bod yn cael y deisyfiadau a ddeisyfasom ganddo.

16. Os gwêl neb ei frawd yn pechu pechod nid yw i farwolaeth, efe a ddeisyf, ac efe a rydd iddo fywyd, i'r rhai sydd yn pechu nid i farwolaeth. Y mae pechod i farwolaeth: nid am hwnnw yr wyf yn dywedyd ar ddeisyf ohono.

17. Pob anghyfiawnder, pechod yw: ac y mae pechod nid yw i farwolaeth.

18. Ni a wyddom nad yw'r neb a aned o Dduw, yn pechu; eithr y mae'r hwn a aned o Dduw, yn ei gadw ei hun, a'r drwg hwnnw nid yw yn cyffwrdd ag ef.

19. Ni a wyddom ein bod o Dduw, ac y mae'r holl fyd yn gorwedd mewn drygioni.

20. Ac a wyddom ddyfod Mab Duw, ac efe a roes i ni feddwl, fel yr adnabyddom yr hwn sydd gywir; ac yr ydym yn y Cywir hwnnw, sef yn ei Fab ef Iesu Grist. Hwn yw'r gwir Dduw, a'r bywyd tragwyddol.

21. Y plant bychain, ymgedwch oddi wrth eilunod. Amen.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Ioan 5