Hen Destament

Testament Newydd

1 Ioan 5:2-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Yn hyn y gwyddom ein bod yn caru plant Duw, pan fyddom yn caru Duw, ac yn cadw ei orchmynion ef.

3. Canys hyn yw cariad Duw; bod i ni gadw ei orchmynion: a'i orchmynion ef nid ydynt drymion.

4. Oblegid beth bynnag a aned o Dduw, y mae yn gorchfygu'r byd: a hon yw'r oruchafiaeth sydd yn gorchfygu'r byd, sef ein ffydd ni.

5. Pwy yw'r hwn sydd yn gorchfygu'r byd, ond yr hwn sydd yn credu mai Iesu yw Mab Duw?

6. Dyma'r hwn a ddaeth trwy ddwfr a gwaed, sef Iesu Grist; nid trwy ddwfr yn unig, ond trwy ddwfr a gwaed. A'r Ysbryd yw'r hwn sydd yn tystiolaethu, oblegid yr Ysbryd sydd wirionedd.

7. Oblegid y mae tri yn tystiolaethu yn y nef; y Tad, y Gair, a'r Ysbryd Glân: a'r tri hyn un ydynt.

8. Ac y mae tri yn tystiolaethu ar y ddaear; yr ysbryd, y dwfr, a'r gwaed: a'r tri hyn, yn un y maent yn cytuno.

9. Os tystiolaeth dynion yr ydym yn ei derbyn, y mae tystiolaeth Duw yn fwy: canys hyn yw tystiolaeth Duw, yr hon a dystiolaethodd efe am ei Fab.

10. Yr hwn sydd yn credu ym Mab Duw, sydd ganddo'r dystiolaeth ynddo ei hun: yr hwn nid yw yn credu yn Nuw, a'i gwnaeth ef yn gelwyddog, oblegid na chredodd y dystiolaeth a dystiolaethodd Duw am ei Fab.

11. A hon yw'r dystiolaeth; roddi o Dduw i ni fywyd tragwyddol: a'r bywyd hwn sydd yn ei Fab ef.

12. Yr hwn y mae'r Mab ganddo, y mae'r bywyd ganddo; a'r hwn nid yw ganddo Fab Duw, nid oes ganddo fywyd.

13. Y pethau hyn a ysgrifennais atoch chwi, y rhai ydych yn credu yn enw Mab Duw; fel y gwypoch fod i chwi fywyd tragwyddol, ac fel y credoch yn enw Mab Duw.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Ioan 5