Hen Destament

Testament Newydd

1 Ioan 4:8-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Yr hwn nid yw yn caru, nid adnabu Dduw: oblegid Duw, cariad yw.

9. Yn hyn yr eglurwyd cariad Duw tuag atom ni, oblegid danfon o Dduw ei unig-anedig Fab i'r byd, fel y byddem fyw trwyddo ef.

10. Yn hyn y mae cariad; nid am i ni garu Duw, ond am iddo ef ein caru ni, ac anfon ei Fab i fod yn iawn dros ein pechodau.

11. Anwylyd, os felly y carodd Duw ni, ninnau hefyd a ddylem garu ein gilydd.

12. Ni welodd neb Dduw erioed. Os carwn ni ein gilydd, y mae Duw yn trigo ynom, ac y mae ei gariad ef yn berffaith ynom.

13. Wrth hyn y gwyddom ein bod yn trigo ynddo ef, ac yntau ynom ninnau, am ddarfod iddo roddi i ni o'i Ysbryd.

14. A ninnau a welsom, ac ydym yn tystiolaethu, ddarfod i'r Tad ddanfon y Mab i fod yn Iachawdwr i'r byd.

15. Pwy bynnag a gyffeso fod Iesu yn Fab Duw, y mae Duw yn aros ynddo ef, ac yntau yn Nuw.

16. A nyni a adnabuom ac a gredasom y cariad sydd gan Dduw tuag atom ni. Duw, cariad yw: a'r hwn sydd yn aros mewn cariad, sydd yn aros yn Nuw, a Duw ynddo yntau.

17. Yn hyn y perffeithiwyd ein cariad ni, fel y caffom hyder ddydd y farn: oblegid megis ag y mae efe, yr ydym ninnau hefyd yn y byd hwn.

18. Nid oes ofn mewn cariad; eithr y mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn: oblegid y mae i ofn boenedigaeth. A'r hwn sydd yn ofni, ni pherffeithiwyd mewn cariad.

19. Yr ydym ni yn ei garu ef, am iddo ef yn gyntaf ein caru ni.

20. Os dywed neb, Yr wyf yn caru Duw, ac efe yn casáu ei frawd, celwyddog yw: canys yr hwn nid yw yn caru ei frawd yr hwn a welodd, pa fodd y gall efe garu Duw yr hwn nis gwelodd?

21. A'r gorchymyn hwn sydd gennym oddi wrtho ef: Bod i'r hwn sydd yn caru Duw, garu ei frawd hefyd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Ioan 4