Hen Destament

Testament Newydd

1 Ioan 2:6-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Yr hwn a ddywed ei fod yn aros ynddo ef, a ddylai yntau felly rodio, megis ag y rhodiodd ef.

7. Y brodyr, nid gorchymyn newydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, eithr gorchymyn hen yr hwn oedd gennych o'r dechreuad. Yr hen orchymyn yw'r gair a glywsoch o'r dechreuad.

8. Trachefn, gorchymyn newydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, yr hyn sydd wir ynddo ef, ac ynoch chwithau: oblegid y tywyllwch a aeth heibio, a'r gwir oleuni sydd yr awron yn tywynnu.

9. Yr hwn a ddywed ei fod yn y goleuni, ac a gasao ei frawd, yn y tywyllwch y mae hyd y pryd hwn.

10. Yr hwn sydd yn caru ei frawd, sydd yn aros yn y goleuni, ac nid oes rhwystr ynddo.

11. Eithr yr hwn sydd yn casáu ei frawd, yn y tywyllwch y mae, ac yn y tywyllwch y mae yn rhodio; ac ni ŵyr i ba le y mae yn myned, oblegid y mae'r tywyllwch wedi dallu ei lygaid ef.

12. Ysgrifennu yr wyf atoch chwi, blant bychain, oblegid maddau i chwi eich pechodau er mwyn ei enw ef.

13. Ysgrifennu yr wyf atoch chwi, dadau, am adnabod ohonoch yr hwn sydd o'r dechreuad. Ysgrifennu yr wyf atoch chwi, wŷr ieuainc, am orchfygu ohonoch yr un drwg. Ysgrifennu yr wyf atoch chwi, rai bychain, am i chwi adnabod y Tad.

14. Ysgrifennais atoch chwi, dadau, am adnabod ohonoch yr hwn sydd o'r dechreuad. Ysgrifennais atoch chwi, wŷr ieuainc, am eich bod yn gryfion, a bod gair Duw yn aros ynoch, a gorchfygu ohonoch yr un drwg.

15. Na cherwch y byd, na'r pethau sydd yn y byd. O châr neb y byd, nid yw cariad y Tad ynddo ef.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Ioan 2