Hen Destament

Testament Newydd

1 Ioan 2:24-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

24. Arhosed gan hynny ynoch chwi yr hyn a glywsoch o'r dechreuad. Od erys ynoch yr hyn a glywsoch o'r dechreuad chwithau hefyd a gewch aros yn y Mab ac yn y Tad.

25. A hon yw'r addewid a addawodd efe i ni, sef bywyd tragwyddol.

26. Y pethau hyn a ysgrifennais atoch ynghylch y rhai sydd yn eich hudo.

27. Ond y mae'r eneiniad a dderbyniasoch ganddo ef, yn aros ynoch chwi, ac nid oes arnoch eisiau dysgu o neb chwi; eithr fel y mae'r un eneiniad yn eich dysgu chwi am bob peth, a gwir yw, ac nid yw gelwydd; ac megis y'ch dysgodd chwi, yr arhoswch ynddo.

28. Ac yr awron, blant bychain, arhoswch ynddo; fel, pan ymddangoso efe, y byddo hyder gennym, ac na chywilyddiom ger ei fron ef yn ei ddyfodiad.

29. Os gwyddoch ei fod ef yn gyfiawn, chwi a wyddoch fod pob un a'r sydd yn gwneuthur cyfiawnder, wedi ei eni ohono ef.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Ioan 2