Hen Destament

Testament Newydd

1 Ioan 2:19-28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. Oddi wrthym ni yr aethant hwy allan, eithr nid oeddynt ohonom ni: canys pe buasent ohonom ni, hwy a arosasent gyda ni: eithr hyn a fu, fel yr eglurid nad ydynt hwy oll ohonom ni.

20. Eithr y mae gennych chwi eneiniad oddi wrth y Sanctaidd hwnnw, a chwi a wyddoch bob peth.

21. Nid ysgrifennais atoch oblegid na wyddech y gwirionedd, eithr oblegid eich bod yn ei wybod, ac nad oes un celwydd o'r gwirionedd.

22. Pwy yw'r celwyddog, ond yr hwn sydd yn gwadu nad Iesu yw'r Crist? Efe yw'r anghrist, yr hwn sydd yn gwadu'r Tad a'r Mab.

23. Pob un a'r sydd yn gwadu'r Mab, nid oes ganddo'r Tad chwaith: [ond] yr hwn sydd yn cyffesu'r Mab, y mae'r Tad ganddo hefyd.

24. Arhosed gan hynny ynoch chwi yr hyn a glywsoch o'r dechreuad. Od erys ynoch yr hyn a glywsoch o'r dechreuad chwithau hefyd a gewch aros yn y Mab ac yn y Tad.

25. A hon yw'r addewid a addawodd efe i ni, sef bywyd tragwyddol.

26. Y pethau hyn a ysgrifennais atoch ynghylch y rhai sydd yn eich hudo.

27. Ond y mae'r eneiniad a dderbyniasoch ganddo ef, yn aros ynoch chwi, ac nid oes arnoch eisiau dysgu o neb chwi; eithr fel y mae'r un eneiniad yn eich dysgu chwi am bob peth, a gwir yw, ac nid yw gelwydd; ac megis y'ch dysgodd chwi, yr arhoswch ynddo.

28. Ac yr awron, blant bychain, arhoswch ynddo; fel, pan ymddangoso efe, y byddo hyder gennym, ac na chywilyddiom ger ei fron ef yn ei ddyfodiad.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Ioan 2