Hen Destament

Testament Newydd

1 Ioan 2:1-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Fy mhlant bychain, y pethau hyn yr wyf yn eu hysgrifennu atoch, fel na phechoch. Ac o phecha neb, y mae i ni Eiriolwr gyda'r Tad, Iesu Grist y Cyfiawn:

2. Ac efe yw'r iawn dros ein pechodau ni: ac nid dros yr eiddom ni yn unig, eithr dros bechodau yr holl fyd.

3. Ac wrth hyn y gwyddom yr adwaenom ef, os cadwn ni ei orchmynion ef.

4. Yr hwn sydd yn dywedyd, Mi a'i hadwaen ef, ac heb gadw ei orchmynion ef, celwyddog yw, a'r gwirionedd nid yw ynddo.

5. Eithr yr hwn a gadwo ei air ef, yn wir yn hwn y mae cariad Duw yn berffaith: wrth hyn y gwyddom ein bod ynddo ef.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Ioan 2