1. Fy mhlant bychain, y pethau hyn yr wyf yn eu hysgrifennu atoch, fel na phechoch. Ac o phecha neb, y mae i ni Eiriolwr gyda'r Tad, Iesu Grist y Cyfiawn:
2. Ac efe yw'r iawn dros ein pechodau ni: ac nid dros yr eiddom ni yn unig, eithr dros bechodau yr holl fyd.
3. Ac wrth hyn y gwyddom yr adwaenom ef, os cadwn ni ei orchmynion ef.