Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 9:3-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Fy amddiffyn i, i'r rhai a'm holant, yw hwn;

4. Onid oes i ni awdurdod i fwyta ac i yfed?

5. Onid oes i ni awdurdod i arwain o amgylch wraig a fyddai chwaer, megis ag y mae i'r apostolion eraill, ac i frodyr yr Arglwydd, ac i Ceffas?

6. Ai myfi yn unig a Barnabas, nid oes gennym awdurdod i fod heb weithio?

7. Pwy sydd un amser yn rhyfela ar ei draul ei hun? pwy sydd yn plannu gwinllan, ac nid yw yn bwyta o'i ffrwyth hi? neu pwy sydd yn porthi praidd, ac nid yw yn bwyta o laeth y praidd?

8. Ai yn ôl dyn yr wyf fi yn dywedyd y pethau hyn? neu onid yw'r ddeddf hefyd yn dywedyd hyn?

9. Canys ysgrifenedig yw yn neddf Moses, Na chae safn yr ych sydd yn dyrnu. Ai dros ychen y mae Duw yn gofalu?

10. Ynteu er ein mwyn ni yn hollol y mae yn dywedyd? Canys er ein mwyn ni yr ysgrifennwyd, mai mewn gobaith y dylai'r arddwr aredig, a'r dyrnwr mewn gobaith, i fod yn gyfrannog o'i obaith.

11. Os nyni a heuasom i chwi bethau ysbrydol, ai mawr yw os nyni a fedwn eich pethau cnawdol?

12. Os yw eraill yn gyfranogion o'r awdurdod hon arnoch, onid ydym ni yn hytrach? Eithr nid arferasom ni yr awdurdod hon: ond goddef yr ydym bob peth, fel na roddom ddim rhwystr i efengyl Crist.

13. Oni wyddoch chwi fod y rhai sydd yn gwneuthur pethau cysegredig, yn bwyta o'r cysegr? a'r rhai sydd yn gwasanaethu yr allor, yn gyd‐gyfranogion o'r allor?

14. Felly hefyd yr ordeiniodd yr Arglwydd, i'r rhai sydd yn pregethu'r efengyl, fyw wrth yr efengyl.

15. Eithr myfi nid arferais yr un o'r pethau hyn: ac nid ysgrifennais y pethau hyn, fel y gwnelid felly i mi: canys gwell yw imi farw, na gwneuthur o neb fy ngorfoledd yn ofer.

16. Canys os pregethaf yr efengyl, nid oes orfoledd i mi: canys anghenraid a osodwyd arnaf; a gwae fydd i mi, oni phregethaf yr efengyl.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 9