Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 9:2-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Onid wyf yn apostol i eraill, eto yr wyf i chwi: canys sêl fy apostoliaeth i ydych chwi yn yr Arglwydd.

3. Fy amddiffyn i, i'r rhai a'm holant, yw hwn;

4. Onid oes i ni awdurdod i fwyta ac i yfed?

5. Onid oes i ni awdurdod i arwain o amgylch wraig a fyddai chwaer, megis ag y mae i'r apostolion eraill, ac i frodyr yr Arglwydd, ac i Ceffas?

6. Ai myfi yn unig a Barnabas, nid oes gennym awdurdod i fod heb weithio?

7. Pwy sydd un amser yn rhyfela ar ei draul ei hun? pwy sydd yn plannu gwinllan, ac nid yw yn bwyta o'i ffrwyth hi? neu pwy sydd yn porthi praidd, ac nid yw yn bwyta o laeth y praidd?

8. Ai yn ôl dyn yr wyf fi yn dywedyd y pethau hyn? neu onid yw'r ddeddf hefyd yn dywedyd hyn?

9. Canys ysgrifenedig yw yn neddf Moses, Na chae safn yr ych sydd yn dyrnu. Ai dros ychen y mae Duw yn gofalu?

10. Ynteu er ein mwyn ni yn hollol y mae yn dywedyd? Canys er ein mwyn ni yr ysgrifennwyd, mai mewn gobaith y dylai'r arddwr aredig, a'r dyrnwr mewn gobaith, i fod yn gyfrannog o'i obaith.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 9