Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 9:17-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Canys os gwnaf hyn o'm bodd, y mae i mi wobr: ond os o'm hanfodd, ymddiriedwyd i mi am y gorchwyl.

18. Pa wobr sydd i mi gan hynny? Bod i mi, pan efengylwyf, osod efengyl Crist yn rhad, fel na chamarferwyf fy awdurdod yn yr efengyl.

19. Canys er fy mod yn rhydd oddi wrth bawb, mi a'm gwneuthum fy hun yn was i bawb, fel yr enillwn fwy.

20. Ac mi a ymwneuthum i'r Iddewon megis yn Iddew, fel yr enillwn yr Iddewon; i'r rhai dan y ddeddf, megis dan y ddeddf, fel yr enillwn y rhai sydd dan y ddeddf;

21. I'r rhai di‐ddeddf, megis di‐ddeddf, (a minnau heb fod yn ddi‐ddeddf i Dduw, ond dan y ddeddf i Grist,) fel yr enillwn y rhai di‐ddeddf.

22. Ymwneuthum i'r rhai gweiniaid megis yn wan, fel yr enillwn y gweiniaid: mi a ymwneuthum yn bob peth i bawb, fel y gallwn yn hollol gadw rhai.

23. A hyn yr wyf fi yn ei wneuthur er mwyn yr efengyl, fel y'm gwneler yn gyd‐gyfrannog ohoni.

24. Oni wyddoch chwi fod y rhai sydd yn rhedeg mewn gyrfa, i gyd yn rhedeg, ond bod un yn derbyn y gamp? Felly rhedwch, fel y caffoch afael.

25. Ac y mae pob un a'r sydd yn ymdrechu, yn ymgadw ym mhob peth: a hwynt‐hwy yn wir, fel y derbyniont goron lygredig; eithr nyni, un anllygredig.

26. Yr wyf fi gan hynny felly yn rhedeg, nid megis ar amcan; felly yr wyf yn ymdrechu, nid fel un yn curo'r awyr:

27. Ond yr wyf fi yn cosbi fy nghorff, ac yn ei ddwyn yn gaeth; rhag i mi mewn un modd, wedi i mi bregethu i eraill, fod fy hun yn anghymeradwy.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 9