6. Eithr i ni nid oes ond un Duw, y Tad, o'r hwn y mae pob peth, a ninnau ynddo ef; ac un Arglwydd Iesu Grist, trwy yr hwn y mae pob peth, a ninnau trwyddo ef.
7. Ond nid yw'r wybodaeth hon gan bawb: canys rhai, a chanddynt gydwybod o'r eilun hyd y pryd hyn, sydd yn bwyta fel peth a aberthwyd i eilunod; a'u cydwybod hwy, a hi yn wan, a halogir.
8. Eithr nid yw bwyd yn ein gwneuthur ni yn gymeradwy gan Dduw: canys nid ydym, os bwytawn, yn helaethach; nac onis bwytawn, yn brinnach.
9. Ond edrychwch rhag mewn un modd i'ch rhyddid hwn fod yn dramgwydd i'r rhai sydd weiniaid.
10. Canys os gwêl neb dydi sydd â gwybodaeth gennyt, yn eistedd i fwyta yn nheml yr eilunod, oni chadarnheir ei gydwybod ef, ac yntau'n wan, i fwyta'r pethau a aberthwyd i eilunod;
11. Ac a ddifethir y brawd gwan trwy dy wybodaeth di, dros yr hwn y bu Crist farw?