Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 8:2-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Eithr os yw neb yn tybied ei fod yn gwybod dim, ni ŵyr efe eto ddim fel y dylai wybod.

3. Ond od oes neb yn caru Duw, hwnnw a adwaenir ganddo ef.

4. Am fwyta gan hynny o'r pethau a aberthir i eilunod, ni a wyddom nad yw eilun ddim yn y byd, ac nad oes un Duw arall ond un.

5. Canys er bod rhai a elwir yn dduwiau, pa un bynnag ai yn y nef ai ar y ddaear, (megis y mae duwiau lawer, ac arglwyddi lawer,)

6. Eithr i ni nid oes ond un Duw, y Tad, o'r hwn y mae pob peth, a ninnau ynddo ef; ac un Arglwydd Iesu Grist, trwy yr hwn y mae pob peth, a ninnau trwyddo ef.

7. Ond nid yw'r wybodaeth hon gan bawb: canys rhai, a chanddynt gydwybod o'r eilun hyd y pryd hyn, sydd yn bwyta fel peth a aberthwyd i eilunod; a'u cydwybod hwy, a hi yn wan, a halogir.

8. Eithr nid yw bwyd yn ein gwneuthur ni yn gymeradwy gan Dduw: canys nid ydym, os bwytawn, yn helaethach; nac onis bwytawn, yn brinnach.

9. Ond edrychwch rhag mewn un modd i'ch rhyddid hwn fod yn dramgwydd i'r rhai sydd weiniaid.

10. Canys os gwêl neb dydi sydd â gwybodaeth gennyt, yn eistedd i fwyta yn nheml yr eilunod, oni chadarnheir ei gydwybod ef, ac yntau'n wan, i fwyta'r pethau a aberthwyd i eilunod;

11. Ac a ddifethir y brawd gwan trwy dy wybodaeth di, dros yr hwn y bu Crist farw?

12. A chan bechu felly yn erbyn y brodyr, a churo eu gwan gydwybod hwy, yr ydych chwi yn pechu yn erbyn Crist.

13. Oherwydd paham, os yw bwyd yn rhwystro fy mrawd, ni fwytâf fi gig fyth, rhag i mi rwystro fy mrawd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 8