27. A wyt ti yn rhwym i wraig? na chais dy ollwng yn rhydd. A wyt ti yn rhydd oddi wrth wraig? na chais wraig.
28. Ac os priodi hefyd, ni phechaist: ac os prioda gwyry, ni phechodd. Er hynny y cyfryw rai a gânt flinder yn y cnawd: eithr yr wyf yn eich arbed chwi.
29. A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, frodyr, am fod yr amser yn fyr. Y mae yn ôl, fod o'r rhai sydd â gwragedd iddynt, megis pe byddent hebddynt;
30. A'r rhai a wylant, megis heb wylo; a'r rhai a lawenhânt, megis heb lawenhau; a'r rhai a brynant, megis heb feddu;
31. A'r rhai a arferant y byd hwn, megis heb ei gamarfer: canys y mae dull y byd hwn yn myned heibio.
32. Eithr mi a fynnwn i chwi fod yn ddiofal. Yr hwn sydd heb briodi, sydd yn gofalu am bethau'r Arglwydd, pa wedd y bodlona'r Arglwydd:
33. Ond y neb a wreicaodd, sydd yn gofalu am bethau'r byd, pa wedd y bodlona ei wraig.
34. Y mae gwahaniaeth hefyd rhwng gwraig a gwyry. Y mae'r hon sydd heb briodi, yn gofalu am y pethau sydd yn perthyn i'r Arglwydd, fel y byddo hi sanctaidd yng nghorff ac ysbryd: ac y mae'r hon sydd wedi priodi, yn gofalu am bethau bydol, pa fodd y rhynga hi fodd i'w gŵr.
35. A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd er llesâd i chwi eich hunain; nid i osod magl i chwi, eithr er mwyn gweddeidd‐dra, a dyfal lynu wrth yr Arglwydd yn ddiwahân.
36. Ond os yw neb yn tybied ei fod yn anweddaidd tuag at ei wyry, od â hi dros flodau ei hoedran, a bod yn rhaid gwneuthur felly; gwnaed a fynno, nid yw yn pechu: priodant.
37. Ond yr hwn sydd yn sefyll yn sicr yn ei galon, ac yn afraid iddo, ac â meddiant ganddo ar ei ewyllys ei hun, ac a roddodd ei fryd ar hynny yn ei galon, ar gadw ohono ei wyry; da y mae yn gwneuthur.
38. Ac am hynny, yr hwn sydd yn ei rhoddi yn briod, sydd yn gwneuthur yn dda; ond yr hwn nid yw yn ei rhoddi yn briod, sydd yn gwneuthur yn well.
39. Y mae gwraig yn rhwym wrth y gyfraith, tra fyddo byw ei gŵr: ond o bydd marw ei gŵr, y mae hi yn rhydd i briodi'r neb a fynno; yn unig yn yr Arglwydd.
40. Eithr dedwyddach yw hi os erys hi felly, yn fy marn i: ac yr ydwyf finnau yn tybied fod Ysbryd Duw gennyf.