Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 5:1-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Mae'r gair yn hollol, fod yn eich plith chwi odineb, a chyfryw odineb ag na enwir unwaith ymysg y Cenhedloedd; sef cael o un wraig ei dad.

2. Ac yr ydych chwi wedi ymchwyddo, ac ni alarasoch yn hytrach, fel y tynnid o'ch mysg chwi y neb a wnaeth y weithred hon.

3. Canys myfi yn ddiau, fel absennol yn y corff, eto yn bresennol yn yr ysbryd, a fernais eisoes, fel pe bawn bresennol, am yr hwn a wnaeth y peth hwn felly,

4. Yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, pan ymgynulloch ynghyd, a'm hysbryd innau, gyda gallu ein Harglwydd Iesu Grist,

5. Draddodi'r cyfryw un i Satan, i ddinistr y cnawd, fel y byddo'r ysbryd yn gadwedig yn nydd yr Arglwydd Iesu.

6. Nid da eich gorfoledd chwi. Oni wyddoch chwi fod ychydig lefain yn lefeinio'r holl does?

7. Am hynny certhwch allan yr hen lefain, fel y byddoch does newydd, megis yr ydych ddilefeinllyd. Canys Crist ein pasg ni a aberthwyd drosom ni:

8. Am hynny cadwn ŵyl, nid â hen lefain, nac â lefain malais a drygioni; ond â bara croyw purdeb a gwirionedd.

9. Mi a ysgrifennais atoch mewn llythyr, na chydymgymysgech â godinebwyr:

10. Ac nid yn hollol â godinebwyr y byd hwn, neu â'r cybyddion, neu â'r cribddeilwyr, neu ag eilun‐addolwyr; oblegid felly rhaid fyddai i chwi fyned allan o'r byd.

11. Ond yn awr mi a ysgrifennais atoch, na chydymgymysgech, os bydd neb a enwir yn frawd yn odinebwr, neu yn gybydd, neu yn eilun‐addolwr, neu yn ddifenwr, neu yn feddw, neu yn gribddeiliwr; gyda'r cyfryw ddyn na chydfwyta chwaith.

12. Canys beth sydd i mi a farnwyf ar y rhai sydd oddi allan? onid y rhai sydd oddi mewn yr ydych chwi yn eu barnu?

13. Eithr y rhai sydd oddi allan, Duw sydd yn eu barnu. Bwriwch chwithau ymaith y dyn drygionus hwnnw o'ch plith chwi.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 5