8. Yr ydych chwi yr awron wedi eich diwallu, yr ydych chwi yr awron wedi eich cyfoethogi, chwi a deyrnasasoch hebom ni: ac och Dduw na baech yn teyrnasu, fel y caem ninnau deyrnasu gyda chwi.
9. Canys tybied yr wyf ddarfod i Dduw ein dangos ni, yr apostolion diwethaf, fel rhai wedi eu bwrw i angau: oblegid nyni a wnaethpwyd yn ddrych i'r byd, ac i'r angylion, ac i ddynion.
10. Yr ydym ni yn ffyliaid er mwyn Crist, a chwithau yn ddoethion yng Nghrist; nyni yn weiniaid, a chwithau yn gryfion; chwychwi yn anrhydeddus, a ninnau yn ddirmygus.
11. Hyd yr awr hon yr ydym ni yn dwyn newyn a syched, ac yr ydym ni yn noethion, ac yn cael cernodiau, ac yn grwydraidd;
12. Ac yr ydym yn llafurio, gan weithio â'n dwylo'n hunain. Pan y'n difenwir, yr ydym yn bendithio; pan y'n herlidir, yr ydym yn ei ddioddef;
13. Pan y'n ceblir, yr ydym yn gweddïo: fel ysgubion y byd y gwnaethpwyd ni, a sorod pob dim, hyd yn hyn.
14. Nid i'ch gwaradwyddo chwi yr ydwyf yn ysgrifennu'r pethau hyn; ond eich rhybuddio yr wyf fel fy mhlant annwyl.
15. Canys pe byddai i chwi ddeng mil o athrawon yng Nghrist, er hynny nid oes i chwi nemor o dadau: canys myfi a'ch cenhedlais chwi yng Nghrist Iesu trwy'r efengyl.
16. Am hynny yr wyf yn atolwg i chwi, byddwch ddilynwyr i mi.
17. Oblegid hyn yr anfonais atoch Timotheus, yr hwn yw fy annwyl fab, a ffyddlon yn yr Arglwydd; yr hwn a ddwg ar gof i chwi fy ffyrdd i yng Nghrist, megis yr wyf ym mhob man yn athrawiaethu ym mhob eglwys.
18. Ac y mae rhai wedi ymchwyddo, fel pe bawn i heb fod ar fedr dyfod atoch chwi.
19. Eithr mi a ddeuaf atoch ar fyrder, os yr Arglwydd a'i myn; ac a fynnaf wybod, nid ymadrodd y rhai sydd wedi chwyddo, ond eu gallu.
20. Canys nid mewn ymadrodd y mae teyrnas Dduw; eithr mewn gallu.
21. Beth a fynnwch chwi? ai dyfod ohonof fi atoch chwi â gwialen, ynteu mewn cariad, ac ysbryd addfwynder?