Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 3:3-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Canys cnawdol ydych chwi eto: canys tra fyddo yn eich plith chwi genfigen, a chynnen, ac ymbleidio; onid ydych yn gnawdol, ac yn rhodio yn ddynol?

4. Canys tra dywedo un, Myfi ydwyf eiddo Paul; ac arall, Myfi wyf eiddo Apolos; onid ydych chwi yn gnawdol?

5. Pwy gan hynny yw Paul, a phwy Apolos, ond gweinidogion trwy y rhai y credasoch chwi, ac fel y rhoddes yr Arglwydd i bob un?

6. Myfi a blennais, Apolos a ddyfrhaodd; ond Duw a roddes y cynnydd.

7. Felly nid yw'r hwn sydd yn plannu ddim, na'r hwn sydd yn dyfrhau; ond Duw, yr hwn sydd yn rhoi'r cynnydd.

8. Eithr yr hwn sydd yn plannu, a'r hwn sydd yn dyfrhau, un ydynt: a phob un a dderbyn ei briod wobr ei hun, yn ôl ei lafur ei hun.

9. Canys cyd‐weithwyr Duw ydym ni: llafurwaith Duw, adeiladaeth Duw, ydych chwi.

10. Yn ôl y gras Duw a roddwyd i mi, megis pensaer celfydd, myfi a osodais y sylfaen, ac y mae arall yn goruwch adeiladu. Ond edryched pob un pa wedd y mae yn goruwch adeiladu.

11. Canys sylfaen arall nis gall neb ei osod, heblaw'r un a osodwyd, yr hwn yw Iesu Grist.

12. Eithr os goruwch adeilada neb ar y sylfaen hwn, aur, arian, meini gwerthfawr, coed, gwair, sofl;

13. Gwaith pob dyn a wneir yn amlwg: canys y dydd a'i dengys, oblegid trwy dân y datguddir ef; a'r tân a brawf waith pawb, pa fath ydyw.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 3