20. A thrachefn, Y mae yr Arglwydd yn gwybod meddyliau y doethion, mai ofer ydynt.
21. Am hynny na orfoledded neb mewn dynion: canys pob peth sydd eiddoch chwi:
22. Pa un bynnag ai Paul, ai Apolos, ai Ceffas, ai'r byd, ai bywyd, ai angau, ai pethau presennol, ai pethau i ddyfod; y mae pob peth yn eiddoch chwi;
23. A chwithau yn eiddo Crist; a Crist yn eiddo Duw.