14. Os gwaith neb a erys, yr hwn a oruwch adeiladodd ef, efe a dderbyn wobr.
15. Os gwaith neb a losgir, efe a gaiff golled: eithr efe ei hun a fydd cadwedig; eto felly, megis trwy dân.
16. Oni wyddoch chwi mai teml Dduw ydych, a bod Ysbryd Duw yn trigo ynoch?
17. Os llygra neb deml Dduw, Duw a lygra hwnnw: canys sanctaidd yw teml Duw, yr hon ydych chwi.
18. Na thwylled neb ei hunan. Od oes neb yn eich mysg yn tybied ei fod ei hun yn ddoeth yn y byd hwn, bydded ffôl, fel y byddo doeth.
19. Canys doethineb y byd hwn sydd ffolineb gyda Duw: oherwydd ysgrifenedig yw, Y mae efe yn dal y doethion yn eu cyfrwystra.
20. A thrachefn, Y mae yr Arglwydd yn gwybod meddyliau y doethion, mai ofer ydynt.
21. Am hynny na orfoledded neb mewn dynion: canys pob peth sydd eiddoch chwi:
22. Pa un bynnag ai Paul, ai Apolos, ai Ceffas, ai'r byd, ai bywyd, ai angau, ai pethau presennol, ai pethau i ddyfod; y mae pob peth yn eiddoch chwi;