Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 3:13-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Gwaith pob dyn a wneir yn amlwg: canys y dydd a'i dengys, oblegid trwy dân y datguddir ef; a'r tân a brawf waith pawb, pa fath ydyw.

14. Os gwaith neb a erys, yr hwn a oruwch adeiladodd ef, efe a dderbyn wobr.

15. Os gwaith neb a losgir, efe a gaiff golled: eithr efe ei hun a fydd cadwedig; eto felly, megis trwy dân.

16. Oni wyddoch chwi mai teml Dduw ydych, a bod Ysbryd Duw yn trigo ynoch?

17. Os llygra neb deml Dduw, Duw a lygra hwnnw: canys sanctaidd yw teml Duw, yr hon ydych chwi.

18. Na thwylled neb ei hunan. Od oes neb yn eich mysg yn tybied ei fod ei hun yn ddoeth yn y byd hwn, bydded ffôl, fel y byddo doeth.

19. Canys doethineb y byd hwn sydd ffolineb gyda Duw: oherwydd ysgrifenedig yw, Y mae efe yn dal y doethion yn eu cyfrwystra.

20. A thrachefn, Y mae yr Arglwydd yn gwybod meddyliau y doethion, mai ofer ydynt.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 3