Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 3:1-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A myfi, frodyr, ni allwn lefaru wrthych megis wrth rai ysbrydol, ond megis rhai cnawdol, megis wrth rai bach yng Nghrist.

2. Mi a roddais i chwi laeth i'w yfed, ac nid bwyd: canys hyd yn hyn nis gallech, ac nis gellwch chwaith eto yr awron, ei dderbyn.

3. Canys cnawdol ydych chwi eto: canys tra fyddo yn eich plith chwi genfigen, a chynnen, ac ymbleidio; onid ydych yn gnawdol, ac yn rhodio yn ddynol?

4. Canys tra dywedo un, Myfi ydwyf eiddo Paul; ac arall, Myfi wyf eiddo Apolos; onid ydych chwi yn gnawdol?

5. Pwy gan hynny yw Paul, a phwy Apolos, ond gweinidogion trwy y rhai y credasoch chwi, ac fel y rhoddes yr Arglwydd i bob un?

6. Myfi a blennais, Apolos a ddyfrhaodd; ond Duw a roddes y cynnydd.

7. Felly nid yw'r hwn sydd yn plannu ddim, na'r hwn sydd yn dyfrhau; ond Duw, yr hwn sydd yn rhoi'r cynnydd.

8. Eithr yr hwn sydd yn plannu, a'r hwn sydd yn dyfrhau, un ydynt: a phob un a dderbyn ei briod wobr ei hun, yn ôl ei lafur ei hun.

9. Canys cyd‐weithwyr Duw ydym ni: llafurwaith Duw, adeiladaeth Duw, ydych chwi.

10. Yn ôl y gras Duw a roddwyd i mi, megis pensaer celfydd, myfi a osodais y sylfaen, ac y mae arall yn goruwch adeiladu. Ond edryched pob un pa wedd y mae yn goruwch adeiladu.

11. Canys sylfaen arall nis gall neb ei osod, heblaw'r un a osodwyd, yr hwn yw Iesu Grist.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 3