1. A myfi, pan ddeuthum atoch, frodyr, a ddeuthum nid yn ôl godidowgrwydd ymadrodd neu ddoethineb, gan fynegi i chwi dystiolaeth Duw.
2. Canys ni fernais i mi wybod dim yn eich plith, ond Iesu Grist, a hwnnw wedi ei groeshoelio.
3. A mi a fûm yn eich mysg mewn gwendid, ac ofn, a dychryn mawr.
4. A'm hymadrodd a'm pregeth i, ni bu mewn geiriau denu o ddoethineb ddynol, ond yn eglurhad yr Ysbryd a nerth:
5. Fel na byddai eich ffydd mewn doethineb dynion, ond mewn nerth Duw.
6. A doethineb yr ydym ni yn ei llefaru ymysg rhai perffaith: eithr nid doethineb y byd hwn, na thywysogion y byd hwn, y rhai sydd yn diflannu.
7. Eithr yr ydym ni yn llefaru doethineb Duw mewn dirgelwch, sef y ddoethineb guddiedig, yr hon a ragordeiniodd Duw cyn yr oesoedd i'n gogoniant ni:
8. Yr hon nid adnabu neb o dywysogion y byd hwn: oherwydd pes adwaenasent, ni chroeshoeliasent Arglwydd y gogoniant.