15. Ond yr ydwyf yn atolwg i chwi, frodyr, (chwi a adwaenoch dŷ Steffanas, mai blaenffrwyth Achaia ydyw, ac iddynt ymosod i weinidogaeth y saint,)
16. Fod ohonoch chwithau yn ddarostyngedig i'r cyfryw, ac i bob un sydd yn cydweithio, ac yn llafurio.
17. Ac yr ydwyf yn llawen am ddyfodiad Steffanas, Ffortunatus, ac Achaicus: canys eich diffyg chwi hwy a'i cyflawnasant;
18. Canys hwy a esmwythasant ar fy ysbryd i, a'r eiddoch chwithau: cydnabyddwch gan hynny y cyfryw rai.
19. Y mae eglwysi Asia yn eich annerch chwi. Y mae Acwila a Phriscila, gyda'r eglwys sydd yn eu tŷ hwynt, yn eich annerch chwi yn yr Arglwydd yn fynych.
20. Y mae'r brodyr oll yn eich annerch. Annerchwch eich gilydd â chusan sancteiddol.
21. Yr annerch â'm llaw i Paul fy hun.
22. Od oes neb nid yw yn caru'r Arglwydd Iesu Grist, bydded Anathema, Maranatha.
23. Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda chwi.
24. Fy serch innau a fo gyda chwi oll yng Nghrist Iesu. Amen.Yr epistol cyntaf at y Corinthiaid a ysgrifennwyd o Philipi, gyda Steffanas, a Ffortunatus, ac Achaicus, a Thimotheus.