1. Hefyd am y gasgl i'r saint; megis yr ordeiniais i eglwysi Galatia, felly gwnewch chwithau.
2. Y dydd cyntaf o'r wythnos, pob un ohonoch rhodded heibio yn ei ymyl, gan drysori, fel y llwyddodd Duw ef, fel na byddo casgl pan ddelwyf fi.
3. A phan ddelwyf, pa rai bynnag a ddangosoch eu bod yn gymeradwy trwy lythyrau, y rhai hynny a ddanfonaf i ddwyn eich rhodd i Jerwsalem.
4. Ac os bydd y peth yn haeddu i minnau hefyd fyned, hwy a gânt fyned gyda mi.
5. Eithr mi a ddeuaf atoch, gwedi yr elwyf trwy Facedonia; (canys trwy Facedonia yr wyf yn myned.)
6. Ac nid hwyrach yr arhosaf gyda chwi, neu y gaeafaf hefyd, fel y'm hebryngoch i ba le bynnag yr elwyf.
7. Canys nid oes i'm bryd eich gweled yn awr ar fy hynt; ond yr wyf yn gobeithio yr arhosaf ennyd gyda chwi, os cenhada'r Arglwydd.
8. Eithr mi a arhosaf yn Effesus hyd y Sulgwyn.
9. Canys agorwyd i mi ddrws mawr a grymus, ac y mae gwrthwynebwyr lawer.
10. Ac os Timotheus a ddaw, edrychwch ar ei fod yn ddi‐ofn gyda chwi: canys gwaith yr Arglwydd y mae yn ei weithio, fel finnau.