Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 15:9-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Canys myfi yw'r lleiaf o'r apostolion, yr hwn nid wyf addas i'm galw yn apostol, am i mi erlid eglwys Dduw.

10. Eithr trwy ras Duw yr ydwyf yr hyn ydwyf: a'i ras ef, yr hwn a roddwyd i mi, ni bu yn ofer; ond mi a lafuriais yn helaethach na hwynt oll: ac nid myfi chwaith, ond gras Duw, yr hwn oedd gyda mi.

11. Am hynny, pa un bynnag ai myfi ai hwynt‐hwy, felly yr ydym yn pregethu, ac felly y credasoch chwi.

12. Ac os pregethir Crist, ei gyfodi ef o feirw; pa fodd y dywed rhai yn eich plith chwi, nad oes atgyfodiad y meirw?

13. Eithr onid oes atgyfodiad y meirw, ni chyfodwyd Crist chwaith:

14. Ac os Crist ni chyfodwyd, ofer yn wir yw ein pregeth ni, ac ofer hefyd yw eich ffydd chwithau.

15. Fe a'n ceir hefyd yn gau dystion i Dduw; canys ni a dystiasom am Dduw, ddarfod iddo gyfodi Crist: yr hwn nis cyfododd efe, os y meirw ni chyfodir.

16. Canys os y meirw ni chyfodir, ni chyfodwyd Crist chwaith.

17. Ac os Crist ni chyfodwyd, ofer yw eich ffydd chwi; yr ydych eto yn eich pechodau.

18. Yna hefyd y cyfrgollwyd y rhai a hunasant yng Nghrist.

19. Os yn y byd yma yn unig y gobeithiwn yng Nghrist, truanaf o'r holl ddynion ydym ni.

20. Eithr yn awr Crist a gyfodwyd oddi wrth y meirw, ac a wnaed yn flaenffrwyth y rhai a hunasant.

21. Canys gan fod marwolaeth trwy ddyn, trwy ddyn hefyd y mae atgyfodiad y meirw.

22. Oblegid megis yn Adda y mae pawb yn meirw, felly hefyd yng Nghrist y bywheir pawb.

23. Eithr pob un yn ei drefn ei hun: y blaenffrwyth yw Crist; wedi hynny y rhai ydynt eiddo Crist yn ei ddyfodiad ef.

24. Yna y bydd y diwedd, wedi y rhoddo efe y deyrnas i Dduw a'r Tad: wedi iddo ddileu pob pendefigaeth, a phob awdurdod a nerth.

25. Canys rhaid iddo deyrnasu, hyd oni osodo ei holl elynion dan ei draed.

26. Y gelyn diwethaf a ddinistrir yw yr angau.

27. Canys efe a ddarostyngodd bob peth dan ei draed ef. Eithr pan yw yn dywedyd fod pob peth wedi eu darostwng, amlwg yw mai oddieithr yr hwn a ddarostyngodd bob peth iddo.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 15