43. Efe a heuir mewn amarch, ac a gyfodir mewn gogoniant: efe a heuir mewn gwendid, ac a gyfodir mewn nerth: efe a heuir yn gorff anianol, ac a gyfodir yn gorff ysbrydol.
44. Y mae corff anianol, ac y mae corff ysbrydol.
45. Felly hefyd y mae yn ysgrifenedig, Y dyn cyntaf Adda a wnaed yn enaid byw, a'r Adda diwethaf yn ysbryd yn bywhau.
46. Eithr nid cyntaf yr ysbrydol, ond yr anianol; ac wedi hynny yr ysbrydol.
47. Y dyn cyntaf o'r ddaear, yn daearol; yr ail dyn, yr Arglwydd o'r nef.
48. Fel y mae y daearol, felly y mae y rhai daearol hefyd; ac fel y mae y nefol, felly y mae y rhai nefol hefyd.
49. Ac megis y dygasom ddelw y daearol, ni a ddygwn hefyd ddelw y nefol.
50. Eithr hyn meddaf, O frodyr, na ddichon cig a gwaed etifeddu teyrnas Dduw; ac nad yw llygredigaeth yn etifeddu anllygredigaeth.
51. Wele, yr wyf yn dywedyd i chwi ddirgelwch: Ni hunwn ni oll, eithr ni a newidir oll mewn moment, ar drawiad llygad, wrth yr utgorn diwethaf:
52. Canys yr utgorn a gân, a'r meirw a gyfodir yn anllygredig, a ninnau a newidir.
53. Oherwydd rhaid i'r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i'r marwol hwn wisgo anfarwoldeb.
54. A phan ddarffo i'r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i'r marwol hwn wisgo anfarwoldeb, yna y bydd yr ymadrodd a ysgrifennwyd, Angau a lyncwyd mewn buddugoliaeth.
55. O angau, pa le mae dy golyn? O uffern, pa le mae dy fuddugoliaeth?
56. Colyn angau yw pechod, a grym pechod yw'r gyfraith.
57. Ond i Dduw y byddo'r diolch, yr hwn sydd yn rhoddi i ni fuddugoliaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist.