Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 15:1-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Hefyd yr ydwyf yn hysbysu i chwi, frodyr, yr efengyl a bregethais i chwi, yr hon hefyd a dderbyniasoch, ac yn yr hon yr ydych yn sefyll;

2. Trwy yr hon y'ch cedwir hefyd, os ydych yn dal yn eich cof â pha ymadrodd yr efengylais i chwi, oddieithr darfod i chwi gredu yn ofer.

3. Canys mi a draddodais i chwi ar y cyntaf yr hyn hefyd a dderbyniais, farw o Grist dros ein pechodau ni, yn ôl yr ysgrythurau;

4. A'i gladdu, a'i gyfodi y trydydd dydd, yn ôl yr ysgrythurau;

5. A'i weled ef gan Ceffas, yna gan y deuddeg.

6. Wedi hynny y gwelwyd ef gan fwy na phum cant brodyr ar unwaith: o'r rhai y mae'r rhan fwyaf yn aros hyd yr awron; eithr rhai a hunasant.

7. Wedi hynny y gwelwyd ef gan Iago; yna gan yr holl apostolion.

8. Ac yn ddiwethaf oll y gwelwyd ef gennyf finnau hefyd, megis gan un annhymig.

9. Canys myfi yw'r lleiaf o'r apostolion, yr hwn nid wyf addas i'm galw yn apostol, am i mi erlid eglwys Dduw.

10. Eithr trwy ras Duw yr ydwyf yr hyn ydwyf: a'i ras ef, yr hwn a roddwyd i mi, ni bu yn ofer; ond mi a lafuriais yn helaethach na hwynt oll: ac nid myfi chwaith, ond gras Duw, yr hwn oedd gyda mi.

11. Am hynny, pa un bynnag ai myfi ai hwynt‐hwy, felly yr ydym yn pregethu, ac felly y credasoch chwi.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 15