Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 14:7-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Hefyd pethau dienaid wrth roddi sain, pa un bynnag ai pibell ai telyn, oni roddant wahaniaeth yn y sain, pa wedd y gwybyddir y peth a genir ar y bibell neu ar y delyn?

8. Canys os yr utgorn a rydd sain anhynod, pwy a ymbaratoa i ryfel?

9. Felly chwithau, oni roddwch â'r tafod ymadrodd deallus, pa wedd y gwybyddir y peth a leferir? canys chwi a fyddwch yn llefaru wrth yr awyr.

10. Y mae cymaint, ysgatfydd, o rywogaethau lleisiau yn y byd, ac nid oes un ohonynt yn aflafar.

11. Am hynny, oni wn i rym y llais, myfi a fyddaf farbariad i'r hwn sydd yn llefaru, a'r hwn sydd yn llefaru a fydd i mi yn farbariad.

12. Felly chwithau, gan eich bod yn awyddus i ddoniau ysbrydol, ceisiwch ragori tuag at adeiladaeth yr eglwys.

13. Oherwydd paham, yr hwn sydd yn llefaru â thafod dieithr, gweddïed ar iddo allu cyfieithu.

14. Canys os gweddïaf â thafod dieithr, y mae fy ysbryd yn gweddïo, ond y mae fy neall yn ddiffrwyth.

15. Beth gan hynny? Mi a weddïaf â'r ysbryd, ac a weddïaf â'r deall hefyd: canaf â'r ysbryd, a chanaf â'r deall hefyd.

16. Canys os bendithi â'r ysbryd, pa wedd y dywed yr hwn sydd yn cyflawni lle'r anghyfarwydd, Amen, ar dy ddodiad diolch, gan nas gŵyr beth yr wyt yn ei ddywedyd?

17. Canys tydi yn ddiau ydwyt yn diolch yn dda, ond y llall nid yw yn cael ei adeiladu.

18. Yr ydwyf yn diolch i'm Duw, fy mod i yn llefaru â thafodau yn fwy na chwi oll:

19. Ond yn yr eglwys gwell gennyf lefaru pum gair trwy fy neall, fel y dysgwyf eraill hefyd, na myrddiwn o eiriau mewn tafod dieithr.

20. O frodyr, na fyddwch fechgyn mewn deall; eithr mewn drygioni byddwch blant; ond mewn deall byddwch berffaith.

21. Yn y ddeddf y mae yn ysgrifenedig, Trwy rai estronieithus, a thrwy wefusau estronol, y llefaraf wrth y bobl hyn; ac ni'm gwrandawant felly, medd yr Arglwydd.

22. Am hynny tafodau ydynt arwydd, nid i'r rhai sydd yn credu, ond i'r rhai di‐gred: eithr proffwydoliaeth, nid i'r rhai di‐gred, ond i'r rhai sydd yn credu.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 14