Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 14:5-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Mi a fynnwn petech chwi oll yn llefaru â thafodau dieithr; ond yn hytrach broffwydo ohonoch: canys mwy yw'r hwn sydd yn proffwydo, na'r hwn sydd yn llefaru â thafodau; oddieithr iddo ei gyfieithu, fel y derbynio yr eglwys adeiladaeth.

6. Ac yr awr hon, frodyr, os deuaf atoch gan lefaru â thafodau, pa lesâd a wnaf i chwi, oni lefaraf wrthych naill ai trwy weledigaeth, neu trwy wybodaeth, neu trwy broffwydoliaeth, neu trwy athrawiaeth?

7. Hefyd pethau dienaid wrth roddi sain, pa un bynnag ai pibell ai telyn, oni roddant wahaniaeth yn y sain, pa wedd y gwybyddir y peth a genir ar y bibell neu ar y delyn?

8. Canys os yr utgorn a rydd sain anhynod, pwy a ymbaratoa i ryfel?

9. Felly chwithau, oni roddwch â'r tafod ymadrodd deallus, pa wedd y gwybyddir y peth a leferir? canys chwi a fyddwch yn llefaru wrth yr awyr.

10. Y mae cymaint, ysgatfydd, o rywogaethau lleisiau yn y byd, ac nid oes un ohonynt yn aflafar.

11. Am hynny, oni wn i rym y llais, myfi a fyddaf farbariad i'r hwn sydd yn llefaru, a'r hwn sydd yn llefaru a fydd i mi yn farbariad.

12. Felly chwithau, gan eich bod yn awyddus i ddoniau ysbrydol, ceisiwch ragori tuag at adeiladaeth yr eglwys.

13. Oherwydd paham, yr hwn sydd yn llefaru â thafod dieithr, gweddïed ar iddo allu cyfieithu.

14. Canys os gweddïaf â thafod dieithr, y mae fy ysbryd yn gweddïo, ond y mae fy neall yn ddiffrwyth.

15. Beth gan hynny? Mi a weddïaf â'r ysbryd, ac a weddïaf â'r deall hefyd: canaf â'r ysbryd, a chanaf â'r deall hefyd.

16. Canys os bendithi â'r ysbryd, pa wedd y dywed yr hwn sydd yn cyflawni lle'r anghyfarwydd, Amen, ar dy ddodiad diolch, gan nas gŵyr beth yr wyt yn ei ddywedyd?

17. Canys tydi yn ddiau ydwyt yn diolch yn dda, ond y llall nid yw yn cael ei adeiladu.

18. Yr ydwyf yn diolch i'm Duw, fy mod i yn llefaru â thafodau yn fwy na chwi oll:

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 14