Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 14:37-40 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

37. Os ydyw neb yn tybied ei fod yn broffwyd, neu yn ysbrydol, cydnabydded y pethau yr wyf yn eu hysgrifennu atoch, mai gorchmynion yr Arglwydd ydynt.

38. Eithr od yw neb heb wybod, bydded heb wybod.

39. Am hynny, frodyr, byddwch awyddus i broffwydo, ac na waherddwch lefaru â thafodau dieithr.

40. Gwneler pob peth yn weddaidd, ac mewn trefn.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 14