Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 14:21-37 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. Yn y ddeddf y mae yn ysgrifenedig, Trwy rai estronieithus, a thrwy wefusau estronol, y llefaraf wrth y bobl hyn; ac ni'm gwrandawant felly, medd yr Arglwydd.

22. Am hynny tafodau ydynt arwydd, nid i'r rhai sydd yn credu, ond i'r rhai di‐gred: eithr proffwydoliaeth, nid i'r rhai di‐gred, ond i'r rhai sydd yn credu.

23. Gan hynny os daw'r eglwys oll ynghyd i'r un lle, a llefaru o bawb â thafodau dieithr, a dyfod o rai annysgedig neu ddi‐gred i mewn; oni ddywedant eich bod yn ynfydu?

24. Eithr os proffwyda pawb, a dyfod o un di‐gred neu annysgedig i mewn, efe a argyhoeddir gan bawb, a fernir gan bawb:

25. Ac felly y gwneir dirgelion ei galon ef yn amlwg; ac felly gan syrthio ar ei wyneb, efe a addola Dduw, gan ddywedyd fod Duw yn wir ynoch.

26. Beth gan hynny, frodyr? pan ddeloch ynghyd, y mae gan bob un ohonoch salm, y mae ganddo athrawiaeth, y mae ganddo dafodiaith, y mae ganddo ddatguddiad, y mae ganddo gyfieithiad. Gwneler pob peth er adeiladaeth.

27. Os llefara neb â thafod dieithr, gwneler bob yn ddau, neu o'r mwyaf bob yn dri, a hynny ar gylch; a chyfieithed un.

28. Eithr oni bydd cyfieithydd, tawed yn yr eglwys; eithr llefared wrtho'i hun, ac wrth Dduw.

29. A llefared y proffwydi ddau neu dri, a barned y lleill.

30. Ac os datguddir dim i un arall a fo yn eistedd yno, tawed y cyntaf.

31. Canys chwi a ellwch oll broffwydo bob yn un, fel y dysgo pawb, ac y cysurer pawb.

32. Ac y mae ysbrydoedd y proffwydi yn ddarostyngedig i'r proffwydi.

33. Canys nid yw Duw awdur anghydfod, ond tangnefedd, fel yn holl eglwysi'r saint.

34. Tawed eich gwragedd yn yr eglwysi: canys ni chaniatawyd iddynt lefaru; ond bod yn ddarostyngedig, megis ag y mae'r gyfraith yn dywedyd.

35. Ac os mynnant ddysgu dim, ymofynnant â'u gwŷr gartref: oblegid anweddaidd yw i wragedd lefaru yn yr eglwys.

36. Ai oddi wrthych chwi yr aeth gair Duw allan? neu ai atoch chwi yn unig y daeth efe?

37. Os ydyw neb yn tybied ei fod yn broffwyd, neu yn ysbrydol, cydnabydded y pethau yr wyf yn eu hysgrifennu atoch, mai gorchmynion yr Arglwydd ydynt.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 14