Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 13:7-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Y mae yn dioddef pob dim, yn credu pob dim, yn gobeithio pob dim, yn ymaros â phob dim.

8. Cariad byth ni chwymp ymaith: eithr pa un bynnag ai proffwydoliaethau, hwy a ballant; ai tafodau, hwy a beidiant; ai gwybodaeth, hi a ddiflanna.

9. Canys o ran y gwyddom, ac o ran yr ydym yn proffwydo.

10. Eithr pan ddelo'r hyn sydd berffaith, yna yr hyn sydd o ran a ddileir.

11. Pan oeddwn fachgen, fel bachgen y llefarwn, fel bachgen y deallwn, fel bachgen y meddyliwn: ond pan euthum yn ŵr, mi a rois heibio bethau bachgennaidd.

12. Canys gweled yr ydym yr awr hon trwy ddrych, mewn dameg; ond yna, wyneb yn wyneb: yn awr yr adwaen o ran; ond yna yr adnabyddaf megis y'm hadwaenir.

13. Yr awr hon y mae yn aros ffydd, gobaith, cariad, y tri hyn; a'r mwyaf o'r rhai hyn yw cariad.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 13