4. Y mae cariad yn hirymaros, yn gymwynasgar; cariad nid yw yn cenfigennu; nid yw cariad yn ymffrostio, nid yw yn ymchwyddo,
5. Nid yw yn gwneuthur yn anweddaidd, nid yw yn ceisio yr eiddo ei hun, ni chythruddir, ni feddwl ddrwg;
6. Nid yw lawen am anghyfiawnder, ond cydlawenhau y mae â'r gwirionedd;
7. Y mae yn dioddef pob dim, yn credu pob dim, yn gobeithio pob dim, yn ymaros â phob dim.
8. Cariad byth ni chwymp ymaith: eithr pa un bynnag ai proffwydoliaethau, hwy a ballant; ai tafodau, hwy a beidiant; ai gwybodaeth, hi a ddiflanna.
9. Canys o ran y gwyddom, ac o ran yr ydym yn proffwydo.
10. Eithr pan ddelo'r hyn sydd berffaith, yna yr hyn sydd o ran a ddileir.
11. Pan oeddwn fachgen, fel bachgen y llefarwn, fel bachgen y deallwn, fel bachgen y meddyliwn: ond pan euthum yn ŵr, mi a rois heibio bethau bachgennaidd.