15. Os dywed y troed, Am nad wyf law, nid wyf o'r corff; ai am hynny nid yw efe o'r corff?
16. Ac os dywed y glust, Am nad wyf lygad, nid wyf o'r corff; ai am hynny nid yw hi o'r corff?
17. Pe yr holl gorff fyddai lygad, pa le y byddai'r clywed? pe'r cwbl fyddai glywed, pa le y byddai'r arogliad?
18. Eithr yr awr hon Duw a osododd yr aelodau, bob un ohonynt yn y corff, fel yr ewyllysiodd efe.
19. Canys pe baent oll un aelod, pa le y byddai'r corff?
20. Ond yr awron llawer yw'r aelodau, eithr un corff.
21. Ac ni all y llygad ddywedyd wrth y llaw, Nid rhaid i mi wrthyt; na'r pen chwaith wrth y traed, Nid rhaid i mi wrthych.
22. Eithr yn hytrach o lawer, yr aelodau o'r corff y rhai a dybir eu bod yn wannaf, ydynt angenrheidiol:
23. A'r rhai a dybiwn ni eu bod yn amharchedicaf o'r corff, ynghylch y rhai hynny y gosodwn ychwaneg o barch; ac y mae ein haelodau anhardd yn cael ychwaneg o harddwch.
24. Oblegid ein haelodau hardd ni nid rhaid iddynt wrtho: eithr Duw a gyd-dymherodd y corff, gan roddi parch ychwaneg i'r hyn oedd ddiffygiol:
25. Fel na byddai anghydfod yn y corff; eithr bod i'r aelodau ofalu'r un peth dros ei gilydd.
26. A pha un bynnag ai dioddef a wna un aelod, y mae'r holl aelodau yn cyd‐ddioddef; ai anrhydeddu a wneir un aelod, y mae'r holl aelodau yn cydlawenhau.
27. Eithr chwychwi ydych gorff Crist, ac aelodau o ran.
28. A rhai yn wir a osododd Duw yn yr eglwys; yn gyntaf apostolion, yn ail proffwydi, yn drydydd athrawon, yna gwyrthiau, wedi hynny doniau i iacháu, cynorthwyau, llywodraethau, rhywogaethau tafodau.
29. Ai apostolion pawb? ai proffwydi pawb? ai athrawon pawb? ai gwneuthurwyr gwyrthiau pawb?
30. A oes gan bawb ddoniau i iacháu? a yw pawb yn llefaru â thafodau? a yw pawb yn cyfieithu?