Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 11:24-34 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

24. Ac wedi iddo ddiolch, efe a'i torrodd, ac a ddywedodd, Cymerwch, bwytewch; hwn yw fy nghorff, yr hwn a dorrir trosoch: gwnewch hyn er coffa amdanaf.

25. Yr un modd efe a gymerodd y cwpan, wedi swperu, gan ddywedyd, Y cwpan hwn yw'r testament newydd yn fy ngwaed: gwnewch hyn, cynifer gwaith bynnag yr yfoch, er coffa amdanaf.

26. Canys cynifer gwaith bynnag y bwytaoch y bara hwn, ac yr yfoch y cwpan hwn, y dangoswch farwolaeth yr Arglwydd oni ddelo.

27. Am hynny, pwy bynnag a fwytao'r bara hwn, neu a yfo gwpan yr Arglwydd yn annheilwng, euog fydd o gorff a gwaed yr Arglwydd.

28. Eithr holed dyn ef ei hun; ac felly bwytaed o'r bara, ac yfed o'r cwpan.

29. Canys yr hwn sydd yn bwyta ac yn yfed yn annheilwng, sydd yn bwyta ac yn yfed barnedigaeth iddo ei hun, am nad yw yn iawn farnu corff yr Arglwydd.

30. Oblegid hyn y mae llawer yn weiniaid ac yn llesg yn eich mysg, a llawer yn huno.

31. Canys pe iawn farnem ni ein hunain, ni'n bernid.

32. Eithr pan y'n bernir, y'n ceryddir gan yr Arglwydd, fel na'n damnier gyda'r byd.

33. Am hynny, fy mrodyr, pan ddeloch ynghyd i fwyta, arhoswch eich gilydd.

34. Eithr os bydd newyn ar neb, bwytaed gartref: fel na ddeloch ynghyd i farnedigaeth. Ond y pethau eraill mi a'u trefnaf pan ddelwyf.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 11