Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 11:2-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Yr ydwyf yn eich canmol, frodyr, eich bod yn fy nghofio i ym mhob peth, ac yn dal y traddodiadau, fel y traddodais i chwi.

3. Eithr mi a fynnwn i chwi wybod, mai pen pob gŵr yw Crist; a phen y wraig yw'r gŵr; a phen Crist yw Duw.

4. Pob gŵr yn gweddïo neu yn proffwydo, a pheth am ei ben, sydd yn cywilyddio ei ben.

5. Eithr pob gwraig yn gweddïo neu yn proffwydo, yn bennoeth, sydd yn cywilyddio ei phen: canys yr un yw â phe byddai wedi ei heillio.

6. Canys os y wraig ni wisg am ei phen, cneifier hi hefyd: eithr os brwnt i wraig ei chneifio, neu ei heillio, gwisged.

7. Canys gŵr yn wir ni ddylai wisgo am ei ben, am ei fod yn ddelw a gogoniant Duw: a'r wraig yw gogoniant y gŵr.

8. Canys nid yw'r gŵr o'r wraig, ond y wraig o'r gŵr.

9. Ac ni chrewyd y gŵr er mwyn y wraig; eithr y wraig er mwyn y gŵr.

10. Am hynny y dylai'r wraig fod ganddi awdurdod ar ei phen, oherwydd yr angylion.

11. Er hynny nid yw na'r gŵr heb y wraig, na'r wraig heb y gŵr, yn yr Arglwydd.

12. Canys yr un wedd ag y mae'r wraig o'r gŵr, felly y mae'r gŵr trwy'r wraig: a phob peth sydd o Dduw.

13. Bernwch ynoch eich hunain, ai hardd yw i wraig weddïo Duw yn bennoeth?

14. Onid yw naturiaeth ei hun yn eich dysgu chwi, os gwalltlaes a fydd gŵr, mai amarch yw iddo?

15. Eithr os gwraig a fydd gwalltlaes, clod yw iddi: oblegid ei llaeswallt a ddodwyd yn orchudd iddi.

16. Od oes neb a fyn fod yn ymrysongar, nid oes gennym ni gyfryw ddefod, na chan eglwysi Duw.

17. Eithr wrth ddywedyd hyn, nid ydwyf yn eich canmol, eich bod yn dyfod ynghyd, nid er gwell, ond er gwaeth.

18. Canys yn gyntaf, pan ddeloch ynghyd yn yr eglwys, yr ydwyf yn clywed fod ymrafaelion yn eich mysg chwi; ac o ran yr wyf fi yn credu.

19. Canys rhaid yw bod hefyd heresïau yn eich mysg, fel y byddo'r rhai cymeradwy yn eglur yn eich plith chwi.

20. Pan fyddoch chwi gan hynny yn dyfod ynghyd i'r un lle, nid bwyta swper yr Arglwydd ydyw hyn.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 11