Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 11:17-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Eithr wrth ddywedyd hyn, nid ydwyf yn eich canmol, eich bod yn dyfod ynghyd, nid er gwell, ond er gwaeth.

18. Canys yn gyntaf, pan ddeloch ynghyd yn yr eglwys, yr ydwyf yn clywed fod ymrafaelion yn eich mysg chwi; ac o ran yr wyf fi yn credu.

19. Canys rhaid yw bod hefyd heresïau yn eich mysg, fel y byddo'r rhai cymeradwy yn eglur yn eich plith chwi.

20. Pan fyddoch chwi gan hynny yn dyfod ynghyd i'r un lle, nid bwyta swper yr Arglwydd ydyw hyn.

21. Canys y mae pob un wrth fwyta, yn cymryd ei swper ei hun o'r blaen; ac un sydd â newyn arno, ac arall sydd yn feddw.

22. Onid oes gennych dai i fwyta ac i yfed? ai dirmygu yr ydych chwi eglwys Dduw, a gwaradwyddo'r rhai nid oes ganddynt? Pa beth a ddywedaf wrthych? a ganmolaf fi chwi yn hyn? Nid wyf yn eich canmol.

23. Canys myfi a dderbyniais gan yr Arglwydd yr hyn hefyd a draddodais i chwi; Bod i'r Arglwydd Iesu, y nos y bradychwyd ef, gymryd bara:

24. Ac wedi iddo ddiolch, efe a'i torrodd, ac a ddywedodd, Cymerwch, bwytewch; hwn yw fy nghorff, yr hwn a dorrir trosoch: gwnewch hyn er coffa amdanaf.

25. Yr un modd efe a gymerodd y cwpan, wedi swperu, gan ddywedyd, Y cwpan hwn yw'r testament newydd yn fy ngwaed: gwnewch hyn, cynifer gwaith bynnag yr yfoch, er coffa amdanaf.

26. Canys cynifer gwaith bynnag y bwytaoch y bara hwn, ac yr yfoch y cwpan hwn, y dangoswch farwolaeth yr Arglwydd oni ddelo.

27. Am hynny, pwy bynnag a fwytao'r bara hwn, neu a yfo gwpan yr Arglwydd yn annheilwng, euog fydd o gorff a gwaed yr Arglwydd.

28. Eithr holed dyn ef ei hun; ac felly bwytaed o'r bara, ac yfed o'r cwpan.

29. Canys yr hwn sydd yn bwyta ac yn yfed yn annheilwng, sydd yn bwyta ac yn yfed barnedigaeth iddo ei hun, am nad yw yn iawn farnu corff yr Arglwydd.

30. Oblegid hyn y mae llawer yn weiniaid ac yn llesg yn eich mysg, a llawer yn huno.

31. Canys pe iawn farnem ni ein hunain, ni'n bernid.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 11