Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 10:19-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. Beth gan hynny yr ydwyf yn ei ddywedyd? bod yr eilun yn ddim, neu'r hyn a aberthwyd i eilun yn ddim?

20. Ond y pethau y mae'r Cenhedloedd yn eu haberthu, i gythreuliaid y maent yn eu haberthu, ac nid i Dduw. Ni fynnwn i chwi fod yn gyfranogion â'r cythreuliaid.

21. Ni ellwch yfed o ffiol yr Arglwydd, a ffiol y cythreuliaid: ni ellwch fod yn gyfranogion o fwrdd yr Arglwydd, a bord y cythreuliaid.

22. Ai gyrru'r Arglwydd i eiddigedd yr ydym? a ydym ni yn gryfach nag ef?

23. Pob peth sydd gyfreithlon i mi, eithr nid yw pob peth yn llesáu: pob peth sydd gyfreithlon i mi, eithr nid yw pob peth yn adeiladu.

24. Na cheisied neb yr eiddo ei hun; ond pob un yr eiddo arall.

25. Beth bynnag a werthir yn y gigfa, bwytewch; heb ofyn dim er mwyn cydwybod:

26. Canys eiddo'r Arglwydd y ddaear, a'i chyflawnder.

27. Os bydd i neb o'r rhai diā€gred eich gwahodd, ac os mynnwch fyned; bwytewch beth bynnag a rodder ger eich bron, heb ymofyn dim er mwyn cydwybod.

28. Eithr os dywed neb wrthych, Peth wedi ei aberthu i eilunod yw hwn; na fwytewch, er mwyn hwnnw yr hwn a'i mynegodd, ac er mwyn cydwybod: canys eiddo'r Arglwydd y ddaear, a'i chyflawnder.

29. Cydwybod, meddaf, nid yr eiddot ti, ond yr eiddo arall: canys paham y bernir fy rhyddid i gan gydwybod un arall?

30. Ac os wyf fi trwy ras yn cymryd cyfran, paham y'm ceblir am y peth yr wyf yn rhoddi diolch amdano?

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 10