15. Dywedyd yr wyf fel wrth rai synhwyrol: bernwch chwi beth yr wyf fi yn ei ddywedyd.
16. Ffiol y fendith, yr hon a fendigwn, onid cymun gwaed Crist ydyw? y bara yr ydym yn ei dorri, onid cymun corff Crist yw?
17. Oblegid nyni yn llawer ydym un bara, ac un corff: canys yr ydym ni oll yn gyfranogion o'r un bara.
18. Edrychwch ar yr Israel yn ôl y cnawd: onid yw'r rhai sydd yn bwyta'r ebyrth, yn gyfranogion o'r allor?
19. Beth gan hynny yr ydwyf yn ei ddywedyd? bod yr eilun yn ddim, neu'r hyn a aberthwyd i eilun yn ddim?
20. Ond y pethau y mae'r Cenhedloedd yn eu haberthu, i gythreuliaid y maent yn eu haberthu, ac nid i Dduw. Ni fynnwn i chwi fod yn gyfranogion â'r cythreuliaid.
21. Ni ellwch yfed o ffiol yr Arglwydd, a ffiol y cythreuliaid: ni ellwch fod yn gyfranogion o fwrdd yr Arglwydd, a bord y cythreuliaid.
22. Ai gyrru'r Arglwydd i eiddigedd yr ydym? a ydym ni yn gryfach nag ef?
23. Pob peth sydd gyfreithlon i mi, eithr nid yw pob peth yn llesáu: pob peth sydd gyfreithlon i mi, eithr nid yw pob peth yn adeiladu.
24. Na cheisied neb yr eiddo ei hun; ond pob un yr eiddo arall.
25. Beth bynnag a werthir yn y gigfa, bwytewch; heb ofyn dim er mwyn cydwybod:
26. Canys eiddo'r Arglwydd y ddaear, a'i chyflawnder.
27. Os bydd i neb o'r rhai diāgred eich gwahodd, ac os mynnwch fyned; bwytewch beth bynnag a rodder ger eich bron, heb ymofyn dim er mwyn cydwybod.